SUT DDECHREUODD...
Rydw i (Karen) a Roxanne, a llawer o bobl eraill yn gwingo wrth fynd i lefydd newydd am amryw reswm, ond y prif reswm ydi ofn o'r anadnabyddus. Byddwn i'n gwario dyddiau, neu hyd yn oed wythnosau yn poeni a pharatoi ar gyfer dyddiau allan, cyfarfodydd ac apwyntiadau, a phrydau gyda'r teulu, weithiau yn arwain at orfod canslo ar y munud olaf ac osgoi'r sefyllfa yn gyfan gwbl.
Ar ei orau, rwy'n gwario oriau yn treillio drwy wefannau, Google Images, mapiau strydoedd, lluniau ar gyfryngau cymdeithasol ayyb., i drio dod o hyd i ble mae'r meysydd parcio neu fannau gollwng agosaf, os oes seddi ar gael a sut fath, y pellter o'r fynedfa i'r dderbynfa, os mae'n hygyrch i gadair olwyn, os oes ganddynt doiledau hygyrch, mae'r rhestr yn ddiddiwedd. Weithiau rwy'n gweld digon o wybodaeth i leddfu fy mhryder, ond yn fwy aml, rwy'n gofyn i fy ngŵr i fynd i mewn ac edrych o gwmpas y lles, weithiau hyd yn oed yn fy ngalw drwy fideo pan mae o i mewn.
Ond, y gwir ydi fy mod wedi cyrraedd lleoliadau gyda fy mhlant i weld nad ydynt yn addas. Rwyf wedi bod yn drallodus, chwithig, blin, trist, pryderus, ac ambell waith rwyf wedi dewis i eistedd yn fy nghar tra bod fy ngwr a'm mhlant yn parhau gyda'u diwrnod.
Gyda'r pandemig covid-19, rydym i gyd wedi gwingo dros y newidiadau gorfodol, rhai yn fwy nag eraill. Fel roedd cyfyngiadau yn codi a'r byd yn ail-agor, roedd y byd roeddwn unwaith yn gwybod wedi mynd. Roedd nawr gan y llefydd roeddwn yn mynd i yn aml gyfyngiadau gorfodol, systemau unffordd a newidiadau i seddi a chynlluniau. Wnaeth hyn droi fy myd drosodd, ond tro yma doedd dim Google Maps, mapiau strydoedd na luniau ar gyfryngau cymdeithasol i fy helpu i lywio'r newidiadau newydd yma.
Ar ddydd Llun yr 12fed o Orffennaf 2021, es i a Roxanne i siop goffi roeddwn yn mynd i yn aml cyn y pandemig, dim ond i weld mai'r unig seddi addas oedd yna yn torri'r rheol pellter cymdeithasol o 2m gyda'r ciw. Dewisais y diwrnod yna ni fyddwn yn cymryd dim mwy o'r byd anhygyrch yma a oedd yn fy anablu ar bob cyfle. Dewisais i a Roxanne mai ein nod bydd i newid y Ddeddf Cydraddoldeb (2010) i gynnwys Fideos Ymgyfarwyddo fel addasiadau rhesymol.
Roeddem yn gwybod na fydd hyn yn ddigon, a bydd angen i ni arwain y ffordd gyda'r cam gyntaf, felly fe ddechreuwn ni Fideos Ymgyfarwyddo. Gyda'r nod i leihau pryder, a helpu pobl i ddod dros rwystrau drwy wneud llefydd anghyfarwydd yn fwy cyfarwydd.
YN ÔL I'R TOP
CYFARFOD EIN TÎM
KAREN WILLIAMS SEFYDLYDD A CHYFARWYDDWR
Karen ydw i, fi yw sylfaenydd a chyfarwyddwr Fideos Ymgyfarwyddo. Rwy'n fam briod i ddau o bobl ifanc hardd sydd ag anghenion ychwanegol gan gynnwys awtistiaeth, ac ar hyn o bryd rwy'n astudio gradd mewn iechyd meddwl a lles ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Rwy'n byw gyda Lipolymphedema, deubegwn ac yn cael trafferth ag agoraffobia. Rwy'n hoffi bod cymaint o bobl eraill allan yna yn cael trafferth gyda phryder, yn enwedig wrth wynebu rhywbeth newydd neu anghyfarwydd. Rydw i eisiau gallu mynd i lefydd heb ofni'r hyn rydw i'n cerdded iddo. Rwyf am gael sicrwydd bod yna seddi y gallaf orffwys arnynt, nad oes ganddynt freichiau. Rydw i eisiau gwybod ble mae'r toiledau a sut le ydyn nhw y tu mewn, heb orfod gofyn i rywun. Mae angen i mi wybod ble mae'r man gollwng neu'r maes parcio agosaf a pha mor bell yw'r fynedfa oddi yno. Rydw i eisiau bod yn barod am amgylchedd prysur a gwybod sut mae hynny'n edrych ac yn swnio. Ar ben hynny, rydw i eisiau'r pethau hyn i chi hefyd…
Ar ddechrau fy astudiaethau doedd gen i ddim syniad beth roeddwn i eisiau ei wneud wedyn, dim ond fy mod eisiau gwneud gwahaniaeth a helpu i wneud bywyd rhywun yn well. Nawr, rwy'n gwybod mai dyma'r hyn yr wyf i fod i fod yn ei wneud i helpu cymaint o bobl â phosibl.
SARAH COMER CYFARWYDDWR A CHADEIRYDD
Fy enw i yw Sarah ac rwy'n un o gyfarwyddwyr sefydlu Fideos Ymgyfarwyddo. Rwy'n fam sengl i efeilliaid anhygoel, ac rwyf wedi gweithio ym maes dylunio a marchnata ers blynyddoedd lawer i gwmnïau corfforaethol. Mae gen i BA (Anrh) mewn Dylunio Graffig a chymwysterau marchnata proffesiynol gan y CIM.
Ar ôl cael fy niswyddo yn ystod y pandemig, sefydlais fy asiantaeth dylunio graffig a marchnata fy hun, ac yn fuan wedi hynny cefais y cyfle gwych i ddod yn rhan o Fideos Ymgyfarwyddo. Fy rôl yma yw creu ein holl gynnwys marchnata a brandio, yr wyf yn mwynhau pob munud ohono! Rwyf hefyd yn Gadeirydd, gan wneud yn siŵr ein bod yn barod ar gyfer pob un o'n cyfarfodydd a'u bod yn rhedeg yn esmwyth a bod gennym ddigonedd o ddanteithion.
Neidiais ar y siawns o fod yn rhan o'r fenter gymdeithasol wych hon gan ei bod yn fenter mor ddyfeisgar. Ni allwn gredu nad oedd y fideos hyn yn bodoli eisoes ar gyfer pobl, ac ar unwaith roeddwn am helpu i sicrhau eu bod ar gael. Mae'r nifer enfawr o bobl y bydd ein fideos yn elwa arnynt yn anhygoel ac rwy'n edrych ymlaen at weld Fideos Ymgyfarwyddo yn tyfu.
LEON BOWEN CYFARWYDDWR
Leon ydw i, un o'r Cyfarwyddwyr ar gyfer Fideos Ymgyfarwyddo. Cefais fy magu yn ardal Wrecsam ac rwyf wedi bod yn rhedeg fy musnes cyfryngau yma ers sawl blwyddyn.
Ar ôl cyfarfod â’r tîm mewn digwyddiad rhwydweithio cefais fy ysbrydoli i’w helpu ar eu taith o wneud yr ‘anghyfarwydd yn fwy cyfarwydd’. Gan ddefnyddio fy nghefndir mewn ffotograffiaeth a fideograffeg, rwyf yma i helpu i ddarparu cymorth technegol ac arweiniad.
Wrth edrych o'r tu allan i mewn, efallai fy mod i'n ymddangos yn hyderus iawn a dyma sut rydw i'n hoffi dod ar draws; ond rydw i wedi cael trafferth gyda phryder ers pan oeddwn i'n ifanc iawn. Roeddwn i'n deall gwir bwysigrwydd y fideos hyn. Mae'r tîm Ymgyfarwyddo yn helpu i agor y drws i unigolion ac yn rhoi taith fawreddog iddynt o amgylch y gofod.
Mae Karen, Roxy a Sarah yn hynod ymroddedig ac angerddol i weithio gyda nhw. Rwy'n gobeithio eu helpu i barhau i gyflawni'r canlyniadau gwych a chefnogi'r rhai sydd ei angen. Edrychaf ymlaen at gwrdd ag eraill ar y daith hon a gweld sut y gallwn ddatblygu ein harlwy i ddarparu profiad iachus.
YN ÔL I'R TOP